Cyfrol 13, Rhifyn 28, Cyhoeddwyd 22/03/2001

Mwy CRAC Nag Erioed...

... ac yn hollol wahanol

Mae Llwybr Llaethog, y band o Flaenau Ffestiniog, wedi cymysgu fersiwn newydd o'r gân "Cymru, Lloegr a Llanrwst" gan Y Cyrff. Fe fydd 500 copi ar label Steffan Crafos, Fitamin Un, er cof am Barry Cawley, gitarydd Y Cyrff, a fu farw y llynedd.

"Roedd Barry'n ffan mawr o seiclo fel fi, felly mi o'n i'n gallu uniaethu efo fo," meddai John Griffiths o'r Llwybr a ddaeth yn ffrindiau gyda'r Cyrff yn yr 1980au. "Roedd common sense yn deud fod angen gwneud hyn fel teyrnged iddo fo. "Mae "Llanrwst - Llwybr Llaethog v Y Cyrff" yn ymgais gan John Griffiths a Cefs Ford o Lwybr Llaethog i roi gwedd newydd ar hen glasur. "Wnaethon ni benderfynu recordio'r fersiwn newydd ar ôl cinio diwrnod Dolig flwyddyn diwetha'," meddai John. "Roeddan ni'n teimlo'n wych ar ôl cael llond bol o bysgod, a dyma ni'n creu loop drums a defnyddio synths i wneud y gān yn fwy dance orientated a big beat."

Y canlyniad yw fod "Llanrwst" yn swnio fwy fel un o ganeuon diweddar Fat Boy Slim neu'r Chemical Brothers na Llanrwst-roc. Er hynny, mae sampl o lais Mark Roberts, prif leisydd a chyfansoddwr Y Cyrff gynt, gitarydd a chyfansoddwr Catatonia erbyn hyn, ar y gân ar ôl i'r Llwybr ei recordio ar Radio Un yn trafod Catatonia.

"Mi oedd be' oedd o'n ddweud yn ffitio efo ysbryd 'Cymru, Lloegr a Llanrwst'," meddai John Griffiths. "Yn y gân mae Mark yn sôn am dan bywyd cyffredinol, jest yfed mewn pyb a cael laff.

"Mi wnaeth Mark chwerthin ei ben off pan glywodd o fersiwn ni. Wedyn wnaeth o ddechra' digio fo."

Back/Yn ol

Back/Yn ol