Cyrff, Cerys a Catatonia

Mae'n 20 mlynedd ers i hogiau o Lanrwst recordio'n record gynta' dan o'r aelodau, Mark Roberts a Paul Jones, wedi profi'r big teim ac wedi dewis y bywyd tawel...


'Ond doedden nhw'n dyddiau i'r eithaf er gwaethaf...' o'r gân 'Eithaf' ar y albwn LLawenydd Heb DDiwedd


Mae pobol wedi synnu wrth wrando ar Atalnod LLawn. casgliad newydd o gryno ddisgiau grwp Y Cyrff, at ba mpr rymus oedd geiriau'r bechgyn ifanc o Lanrwst yn yr 1980au.

Fel mae Toni Schiavone, eu cefnogwr ffyddlon ers ei gyfnod yn athro arnyn nhw yn yr ysgol uwchradd, yn egluro yn ei gyflwyniad i'r casgliad: 'O'r cychwyn, roedd rhywbeth arbennig yn perthyn i Y Cyrff. Nid jyst yr egni yn y chwarae a'r cyd-chwarae, ond y dwyster a'r gonestrwydd yn y canu...

"Oddi fewn i gymaint o'r caneuon, mae yma ryw hiraeth, ac unigrwydd, yn ogystal â'r gorfoledd a'r nwyd sydd yn perthyn i'r rhai sydd yn gallu treiddio'n ddwfn."

Mae Mark Roberts, prif-leisydd Y Cyrff, ychydig yn hwyr yn cyrraedd gardd gwrw ei dafarn leol, y Clive yn NHreganna, Caerdydd.

Mae Paul Jones, cyn-fasydd y grwp, yno ers deng munud ac ef sy'n tueddu i sgwrsio fwya', gyda'r llall yn gwrando'n ddi-daro cyn ychwanegu ei bwt ei hun bob yn hyn a hyn.

Fe ddechreuodd Y Cyrff ar ôl i Tony Schiavone berswadio'r bechgyn y gallen nhw gael gigs cyson petaen nhw'n troi i ganu'n Cymraeg, yn lle gwneud cyfyrs o grwpiau Saesneg fel y Clash.

Y ddau aelod arall oedd Barry Crawley, ar y gitâr, a Dylan Hughes ar y dryms, cyn iddo gael ei ddisodli wedyn gan Mark Kendall.

"Doedd dim lot o stwff Cymraeg diddorol i'w gael ar y pryd," meddai Paul Jones. "Oeddan ni i gyd yn gwrando ar fiwsig Saesneg - reggae, funk... doedd dim byd Cymraeg yn adlewyrchu hynna."

Er hynny, mae'r ddau'r enwi grwpiau Cymraeg a wnaeth argraff arnyn nhw, fel Y Sefydliad, LLygod FFyrnig a Datblygu,

"Roeddan ni'n lwcus bod pawb mewn i'r un stwff," Mark Roberts, "Oeddan i'n syportio Maffia lot."

"Wnaethon ni bron pob un gig yn Stedfod RHyl!" meddai Paul Jones wedyn. "Os fasa rhywun yn dweud wrtha' i ar y pryd fod yna bocs set o'r stwff yn dod allan mewn 20 mlynedd, faswn i wedi chwerthin."

Mae Toni Schiavone wedi bod yn pwyso arnyn nhw ers blynyddoedd i gyhoeddi'r casgliad. Mae'n mserol eleni, gan ei bod hi'n 20 mlynedd union ers i'r Cyrff recordio'u sengl gynta', 'Yr Haint'.


'Hadau'r dychymyg i'r cyhoedd mewnblyg...' o'r gân 'Hadau'r Dychymyg' - LLawenydd Heb DDiewdd


Nid caneuon mewnblyg, dychanol fel y Smith, un o grwpiau Saesneg mwya'r cyfnod, oedd gan Y Cyrff, ond darluniau o'u byd nhw'u hunain yng "nghysgod Eryri", a'r riffs bachog yn rhoi llinell bwyslais amlwg o dan y geiriau.

Roedd y rheiny'n gofiadwy, yn llawn egni ac angst, ac yn ennyn amateb. Rhai'n beirniadu cyflwr y byd roc Cymraeg neu S4C a syrthni bywyd yng NGHymru Gymraeg yr 80au - fel y gân 'Y Deffro' (Y Testament): "O Caerdydd i Ynys Môn... yawn ffycin yawn/ breuddwyd yw bywyd a'r deffro yw yw'r diwedd... dw i 'di bod yn gwylio, gwylio, gwylio/ hen bryd i hen Gymru ddeffro/ dw i di bod yn gwylio, gwylio, gwylio/ hen bryd i hen suddo..."

Ond roedden nhw hefyd yn gallu canu'r un mor rymus am gymlethdodau cariad - 'plis dangos i fi y berthynas sy'n bodoli rhwng dyn a dynas, "cos weithie dw i'n boddi mewn ansicrwydd..." ('Ansicrwydd', Y Testament Newydd).

DDaeth y ddawn gyda geiriau ddim yn hawdd, yn ôl Mark Roberts.

"Oedd o ddim yn dda o'r cychwyn. Doedd o ddim yn dod yn naturiol. Oedd o'n rhywbeth o'n i'n gorfod gweithio arno fo.

"Ar y dechrau, o'n i ddim yn setlo ar y geiriau tan o'n i yn y recording studio, o'n i jyst yn gwneud geiriau a synau i fyny fel bod nhw'n ffitio'r leins, a'u sgwennu nhw last minute hefyd. Yn y diwedd, o'n i wedi sortio fo ac yn gadael digon o amser.

"Ar y dechrau, oedd o'n fwy o chore ond, erbyn y diwedd, o'n i'n eitha' mwynhau o."

Mae'n anodd dychmygu'r anhawster wrth wrando ar eu CD cynhara' Y Testament Newydd, sy'n cynnwys rhai o'u llinellau mwya' trawiadol - "fel corwynt creadigol yn chwythu drwy fy mhen/ dw i ar y rheilffordd i dy galon, ond mae'r trên wedi torri lawr/ yr unig gysur yw dy dafod, rho bopeth i mi nawr: ('Y Pleser').

Ymhob llun sy' tu fewn i glawr y casgliad bocs CD a dynnwy gan ffotograffwyr sin roc yr 80au, fel Rolant Dafis, mae yna bedwar dyn ifanc yn syllu'n syth at y camera, yn hollol o ddifri'.

Fe ddaw hynny'n amlwg wrth ofyn be' yw eu hoff gân. Mae Paul Jones yn enwi'r g 'Euog' oddi ar LLawenydd Heb DDiwedd yn syth; mae Mark Roberts yn pwyso a mesur.

"Dw i'n eitha' hapus efo nhw i gyd," meddai. O'n i'n rhedeg y grwp fatha busnes. Pan oeddan ni'n gwneud gwaith i'r teledu a chael arian, mi fydden ni'n ei roi o'n syth i 'neud single. Oedd rhaid gwneud o fel'na."

Yr un agwedd wylaidd, uniongyrchol sydd ganddo wrth darfod ei allu cerddorol.

"Faswn i'n dweud mod i ddim yn dda iawn am chwarae offerynnau," meddai, "ond dw i'n gallu basho tiwn allan ar y rhan fwya' ohonyn nhw - tiwn o ryw fath!

"Ar ôl dysgu chords, wnes i ddim boddro trio dysgu ryw riffs neu ddarnau o ganeuon pobol eraill, o'n i'n gweld o'n lot haws gwneud pethau fyny fy hun, ac oedd neb yn gallu dweud wrtha' i, na, mae hynna' rong."


'Cyffwrdd am reswm, cytun 'mond am eilad...' o'r gân 'Eithaf' LLawenydd Heb DDiwedd


Does dim rhyfedd bod Mark Roberts a Paul Jones wedi mynd i entrychion miwsig pop gyda Catatonia ddiwedd y 1990au/

Yn ôl Mark Roberts, rhyddhad oedd cael ildio gwaith y prif leisydd i Cerys Matthews, a fu'n gariad iddo am tua pum mlynedd ym more oes Catatonia dechrau'r 1990au.

"Roedd hi'n relief cael peidio canu," meddai. "Roedd hi (Cerys) yn naturiol yn ei wneud o. Pan o'dhi ar lwyfan, roedd hi'n gallu communicate-io efo'r gynulleidfa.

"Adeg Catatonia, roedd hi lot anoddach iddi hi nag i ni. Doedd hi ddim yn gallu cerdded lawr Queen Street (yng NGHaerdydd)."

Fe gawson nhw gyfnod prysur ynghanol y 1990au gyda'u caneuon poblogaidd fel 'Road Rage' a 'Mulder and Scully' yn cyrraedd brig y siartiau Prydeinig, a Cerys Matthews ym menawdau'r papurau newydd oherwydd ei bwywyd cymdeithasol gwyllt.

Roedd chwarae gyda'r Cyrff yn wahanol i fod yn rhan o Catatonia, yn ôl Mark Roberts.

"Oedd y ddau'r hwyl, jyst yn wahanol," meddai. "Ni oedd yn dewis be' oeddan ni eisio ei wneud yn Y Cyrff. Oedd rhai elfennau'n haws efo'r Cyrff, achos erbyn i ni fynd i Catatonia - deudwch os fasan ni'n mynd ar daith neu rywbeth - oedd gynnon ni roadies oedd yn rhoi'r gitârs mewn cesys, ac wedyn yn pryn cesys i'w rhoi nhw ar yr awyren, so oedd yna ddau gês, wedyn oeddan nhw i gyd yn mynd i gês mwy.

"Felly pan oeddan ni ar tour, oeddan ni'n methu actually cael gafael ar gitâr, heblaw bod chi ar y llwyfan. Felly oeddach chi dim yn cael chance i sgwennu gymaint neu jyst chwarae o gwmpas."


'Yr unig gwestiwn ar ôl ydi pwy sy'n bia'r bai...' o'r gân 'Y Cyfrifoldeb', Y Testament newydd


Mae Cerys Matthews bellach wedi cilio i fywyd hamddenol gyda'i gwr, Seth, a'i merch fach, Glenys Pearl Y Felin, yn America, ac mae'n disgwyl babi arall.

Does yna ddim cynnen amlwg rhyngddi hi a'i chyn-gariad, er i'w perthynas ddod i ben pan oedd y ddau ohonyn nhw'n aelodau o Catatonia - un o fandiau mwya' poblogaidd gwledydd Prydain ar y pryd. Mae yna awgrym bod tua'r diwedd.

"Roeddan ni'n teimlo'i fod o'n dod i ben," meddai Mark Roberts. "Efo Cerys a phawb. Roedd hi wedi dod yn anodd cael he i rihyrsio a'i chael hi i werthfawrogi'r band.

"Roeddan ni'n gallu dweud bod o'n dod i ben. Roedd hi'n gallu bod yn frustrating weithiau. Roeddan ni gwneud recordings - ond oedd hi'n anodd. Weithie oedd hi mwy interested mynd i'r hairdressers na dod i rehearsals!"

Mae'n diystyru'r syniad ei fod yn eiddigeddus o'r sylw yr oedd y brif gantores yn ei gael.

"O'n i'n teimlo drosti weithie," meddai Mark Roberts. "Mae lot o bobol yn meddwl bod bod elfen o eiddigedd, ei bod hi'n cael sylw, ond faswn i ddim wedi gallu handlo fo ar y pryd."

Chafodd y ffaith bod y ddau'n gariadon ddim effaith ar y grwp, yn ôl Paul Jones.

"O'dd hi'n haws mewn band," meddai. "O leia' oeddan nhw ddim yn ddeuawd!"

I bob golwg, Mae Mark Roberts i'w yn fodlon ei fyd yn byw yn y brifddinas yn arbrofi â cherddoriaeth gyda'i gyfaill oes. Y llynedd, fe fu'r ddau'n teithio gyda'r grwp Sherbet Antlers gydag aelodau LLwybr LLaethog, ac mae'r ddau'n gweithio ar albwm eu grwp newydd, Y FFyrc.

Dydyn nhw ddim ar frys i ailymuno â chyffro'r byd roc proffesiynol.

"Dydan ni ddim eisio gwneud i fiwsig fod yn yrfa na ddim byd," meddai Mark Roberts. "Does ganddon ni ddim long-term plan efo projectau; rydan ni jyst eisio gwneud rhai fel ydan ni'n meddwl amdanyn nhw.

"Rydan ni'n dai i bod ddifri' amdano fo, ond dydan ni ddim eisio bod yn tied i un thing.

A hoff llinell Mark o ganeuon y Cyrff? "Dw i bron â marw isho byw..." o'r gân 'Hwyl Fawr Heulwen'.

Efallai mai dyna y mae e'n ei wneud o'r diwedd, yn byw i'w rythm ei hun,

Non Tudur

Atalnod LLawn (bocs set), Y Cyrff, Recordiau Rasal

Ymddangosodd yn Golwg ar 29 Medi, Cyfrol 18, RHif 5.

Back/Yn ol


Member of The Internet Defense League
Site Search Site Search